University Transcriptions yn Cymraeg

Mae University Transcriptions and TP Transcription Limited yn cynnig gwasanaethau trawsgrifiad a chyfieithiad o’r Gymraeg i’r Saesneg ag o’r Saesneg i’r Gymraeg.

Rydym wedi ein lleoli yng Ngogledd Cymru ac rydym yn gweithio i nifer o brifysgolion, awdurdodau lleol a bordydd iechyd ledled Cymru. Mae gennym dros 40 o adysgrifwyr ar ein llyfrau ac rydym yn cynnig gwasanaethau cyfieithu ym mhob iaith Ewropeaidd, yn ogystal â’r mwyafrif o ieithoedd ar draws y byd. Rydym yn cynnig ein gwasanaethau trawsgrifio a chyfieithu Cymraeg ar gyfradd 7 neu 14 diwrnod ond mae TP Transcription Limited yn cynnig gwasanaethau trawsgrifio a chyfieithu.

Gellir anfon y ffeiliau drwy e-bost neu mae modd llwytho’r ffeiliau ar ein gwasanaethyddion yng Ngogledd Cymru a dyrennir y gwaith i un o’n cyfieithwyr Cymraeg. Mae pob un o’n cyfieithwyr yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac mae ganddynt lefel brodorol o Saesneg hefyd.

Rydym yn achrededig gan Cyber Essentials ag felly mae pob cyfathrebiad ar y we yn ddiogel. Rydym yn cydymffurfio â RhGDC (GDPR) ac mae gennym systemau ar waith i sicrhau na fydd unrhyw ffeiliau digidol neu data yn gadael Y Deyrnas Unedig ar unrhyw adeg.

Lleolir ein gwasanaethyddion yn Nibych, Gogledd Cymru ac mae ein system wrth gefn wedi ei leoli ger Yr Wyddgrug. Rydym wedi arfer gweithio ar brosiectau sensitif ac rydym yn hapus i amddiffyn unrhyw waith trwy cytundeb heb ei datgelu (NDA).

Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion neu i ymofyn am ddyfynbris.